Fe sefydlwyd Marathon Eryri Cyf (sefydliad dielw) yn 2007 i gymryd y baich o drefnu Marathon Eryri oddi ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. O’r cychwyn roedd y sefydliad newydd yn benderfynol y byddai’r ras yn codi cymaint o arian ag a oedd yn bosib ar gyfer achosion lleol. Yn ras 2022 fe godwyd cyfanswm o £30,000 ar gyfer yr achosion lleol.
Yn y blynyddoedd dilynol fe barhawyd i gyfrannu at achosion lleol a grwpiau gwirfoddoli. Mae’r arian hwn wedi’i ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd o adeiladu wal ddringo mewn Ysgol Gynradd leol i helpu i ariannu tripiau i grwpiau gwirfoddoli lleol.
Rydyn ni’n parhau i gyfrannu at grwpiau ac achosion lleol. Os gwyddoch chi am unrhyw grwpiau a allai fod yn gymwys i gael ein help ni, cysylltwch â ni.
Heb eich help chi, fydden ni ddim wedi gallu helpu’r achosion lleol hyn. Diolch.