Mae Jayne Lloyd wedi trefnu Marathon Eryri ers 2004. Ers hynny mae’r ras wedi tyfu o ddigwyddiad â 600 o redwyr, i farathon heddiw â chapasiti o 2600, ac mae’n awr ymysg marathonau mwyaf eiconig y Deyrnas Unedig.
Mae Jayne, cyn-redwr mynyddoedd rhyngwladol, yn gwybod beth mae’n ei olygu i gwblhau sialens fel hyn, a beth sydd ei angen ar y rhedwr ar y daith honno. Mae ei brwdfrydedd a’i gwybodaeth yn amlwg ym mhopeth sydd gan y ras i’w gynnig ac mae’n atyniad mawr yn y digwyddiad.
Yn ogystal â Jayne, mae yna dîm craidd sy’n trefnu ac yn gofalu am y cyfryngau.
Mae Phil Jones wedi gorffen y ras sawl gwaith ac mae hefyd yn aelod o’r Clwb 100 Marathon. Dros y 25-30 o flynyddoedd diwethaf mae Phil wedi bod yma bob amser un ai’n cymryd rhan yn y ras neu’n helpu â’r broses geisiadau a chofrestru’r digwyddiad. Mae’n rhan o’r digwyddiad.
Matt Ward ydi sylwebydd y ras ac mae hefyd yn cyfrannu i arlwy’r cyfryngau yn y digwyddiad. Bydd hefyd yn cynnig ei arbenigedd ar y cystadleuwyr yn y rhagolygon ac yn yr adroddiadau wedi’r ras.
Mae Pwyllgor Ras Eryri hefyd yn rhan anhepgor o’r digwyddiad – boed hynny’n cario rhwystr ar ddiwrnod y ras, yn trefnu’r stiwardiaid, yn rhoi gwybod beth sy’n digwydd i’r pentref lleol neu’n sefyll am oriau yn y glaw ar ddiwrnod y ras yn cyfeirio traffig a rhedwyr, maen nhw yna bob amser!