English

Gan adeiladu ar y gweithgareddau amgylcheddol-wyrdd rydyn ni wedi’u gweithredu yn y blynyddoedd diwethaf, byddwn bob amser yn gobeithio cynyddu ein hymdrechion i sefydlu Marathon Eryri’n Farathon Werdd gynta’r Deyrnas Unedig.

Ailgylchu a chompostio ar-safle

Byddwn yn ailgylchu ac yn compostio cymaint o wastraff ag sydd bosib. Yn ogystal â hynny byddem yn ei werthfawrogi’n fawr pe gallech ein helpu i godi arian ar gyfer achosion lleol drwy ddod â hen ddillad neu esgidiau rhedeg i’r digwyddiad. Fe fydd yna finiau ailgylchu ar safle ac yn ogystal â hyn, bydd stiwardiaid ar y cychwyn i gasglu eich hen ddillad “ymgynhesu” y byddwch yn eu taflu.

Crysau cyfranogwyr wedi’u gwneud o gotwm organig

Mae ein crysau cyfranogwyr wedi’u gwneud o gotwm organig ac maen nhw’n fasnach deg.

Byddwch yn falch o gael eich gweld yn ein Crys T ni! Mae ein crysau T wedi’u printio gan gwmni lleol www.cowbois.com

Mae gennym ni’n awr hefyd grysau tec o ffynhonnell sydd gan yr hogiau yma www.greenrace.co.uk

Matiau diod i orffenwyr wedi’u gwneud o lechen leol

O ffynhonnell leol ac wedi’u hysgythru’n lleol, mae ein matiau diod yn femento unigryw i’n cyfranogwyr ac mae hefyd yn lleihau ein hôl troed ar yr amgylchedd.

Defnyddio llai o bapur

Byddwn yn ceisio gwneud cymaint ag a allwn ni ar e-bost a byddwn yn gofyn i’n cyflenwyr i gyd geisio gwneud hynny hefyd wrth gysylltu â ni. Caiff ein papur gwastraff ei garpio i gyd a’i ddefnyddio fel deunydd gwely i ieir!

Defnyddio papur wedi’i ailgylchu

Mae Marathon Eryri’n defnyddio papur ailgylchu 100%.

Ailgylchwch rifau’r ras

Mae rhifau’r ras wedi’u gwneud o ddeunydd a elwir yn Polyart ac er nad ydi rhifau’r ras eu hunain wedi’u gwneud o ddeunydd ailgylchu byddwn yn casglu’r rhifau ar ddiwedd y ras i’w hailgylchu. Wrth gwrs gallwch gadw eich rhif os hoffech chi wneud hynny.

Ffocws ar rannu ceir

Yn rhan o’n Menter Werdd rydyn ni am annog yr holl ymwelwyr i leihau eu hallyriadau carbon drwy leihau swm cronnus y milltiroedd y byddan nhw’n gyrru i ddod i’n digwyddiad. Un ffordd yw rhannu lifft â chyd-redwyr neu wylwyr. Diolch i ryfeddodau’r we gallwch ffeindio cyd-deithwyr yn awr ar www.liftshare.com. Postiwch restr i rannu lle yn eich car chi neu i chwilio am le os oes arnoch angen reid.

Annog gwrthbwyso carbon

Os na allwch drefnu cronfa geir, byddai’n ffantastig pe gallech “wrthbwyso” yr allyriadau carbon o’ch taith. Er enghraifft, os ydych chi’n teithio yn y car o Fanceinion fe wnaiff gostio dim ond 75 ceiniog i chi ac o Lundain £3.50. Gwefan ardderchog i wrthbwyso eich allyriadau yw: www.carbonbalanced.org

Cefnogi Masnach Deg

Mae Marathon Eryri’n gefnogwyr y mudiad Masnach Deg. Rydyn ni’n defnyddio cynhyrchion Masnach Deg ble bynnag y bydd hynny’n bosib o’n crysau T i’r te a’r coffi wedi’r ras. Byddem yn gofyn i chi ystyried gwneud hynny hefyd. I gael mwy o wybodaeth am Fasnach Deg ewch i: www.fairtrade.org.uk

Fe wyddon ni nad ydyn ni’n berffaith ond rydyn ni’n ceisio gwneud popeth a allwn ni i helpu’r amgylchedd. Bob blwyddyn byddwn yn ceisio gwella a gwneud pethau’n wyrddach. Os gwyddoch chi am unrhyw ffordd y gallwn wella pethau neu os hoffech helpu cysylltwch â ni ar: info@snowdoniamarathon.com