
TALENT ERYRI
Cynorthwyo unigolion o dan 25 oed I gyrraedd Rhagoriaeth mewn Chwaraeon - (Dalgylch Eryri) Gwynedd, Môn, Conwy
​
Grantiau
I Bwy?
​
Mae’r gronfa yn agored i unigolion o dan 25 oed sydd yn byw yn dalgylch Eryri ers dros 3 blynedd. (Gwynedd, Môn neu Conwy)
Mae’n rhaid i’r unigolyn fod wedi cyrraedd lefel uchel (rhyngwladol) yn ei faes chwaraeon ac yn anelu’n uwch.
Bydd rhaid i hyfforddwr / canolwr fod yn barod i gefnogi eich cais.
Ar Gyfer Beth?
Gall yr arian gael ei roi fel cyfraniad at gostau teithio i ymarferion, hyfforddiant pellach, unrhyw beth sydd yn cyfrannu at wella perfformiad yr unigolyn.
Faint?
Bydd yr arian sydd ar gael yn amrywio o £100 i £2000 i’r unigolion llwyddiannus yn ddibynol ar nifer y ceisiadau ac ansawdd / anghenion y ceisiadau.
Pryd?
Mae’n bosib gwneud cais trwy’r flwyddyn (1 cais yn unig ar gyfer bob unigolyn)
Sut i Ymgeisio?
Cwblhau y Ffurflen Gais (Linc)


