ASICS to sponsor Snowdonia Marathon Eryri // ASICS i noddi Marathon Eryri

As preparations for the 2018 Snowdonia Marathon Eryri gather pace, organisers have announced an exciting new partnership with globally-renowned sports brand ASICS.

The iconic event, which dates back to 1982, sold-out in record time once again for 2018, with over 2700 places being snapped-up in less than two hours.

The official apparel and footwear partner deal sees yet another world-class brand associating themselves with the marathon, which sees runners from over 27 countries taking part.

Commenting on the announcement Cathy McGinnis, ASICS Marketing Manager UK & Ireland said:

ASICS is delighted to become the sportswear brand sponsor of the 2018 Snowdonia Marathon Eryri. The event is a key marathon in the autumn/winter race calendar for runners of all levels, and we are look forward to supporting the runners on their personal marathon journey.”

2017 witnessed the biggest field ever taking to the roads of Snowdonia and completing what is considered one of the most stunning 26.2 mile races on the UK calendar. With an elevation of almost 3000ft the race is one of the most brutally tough too. This year’s race will be the 36th edition and takes place on Saturday October 27th.

For Snowdonia Marathon Eryri race co-ordinator Jayne Lloyd this will be her 15th year on the event. Commenting on the news she stated:

“We are really excited to be working with ASICS in 2018. Their brand is steeped in running history so we are proud to have them supporting our event.

“We’ll be working hard with their UK marketing team this year to bring a great experience to our runners via the ASICS brand.”

For further information on the ASICS brand visit their website

//

Wrth i’r paratoadau ar gyfer Marathon Eryri 2018 brysuro ymlaen, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi partneriaeth gyffrous â brandiau chwaraeon byd-enwog ASICS.

Unwaith eto mae’r lleoedd ar gyfer y digwyddiad eiconig yma sy’n dyddio’n ôl i 1982 wedi eu cymryd i gyd ar gyfer digwyddiad 2018, gyda mwy na 2700 o leoedd wedi’u cipio mewn llai na dwy awr ym mis Rhagfyr y llynedd.

Mae’r cytundeb yn gweld brand arall o safon byd yn awyddus i’w cysylltu eu hunain â’r marathon, sydd yn gweld rhedwyr o 27 wlad yn cymryd rhan.

Wrth roi sylwadau ar y cyhoeddiad dywedodd Cathy McGinnis, Rheolwr Marchnata ASICS y DU ac Iwerddon:

“Mae ASICS yn hynod falch o ddod yn noddwr brand dillad chwaraeon Marathon Eryri 2018. Mae’r digwyddiad yn farathon allweddol yng nghalendr rasio’r hydref/gaeaf ar gyfer rhedwyr o bob lefel, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gefnogi’r rhedwyr ar daith eu marathon personol nhw.

Yn 2017 gwelwyd y nifer mwyaf erioed yn rhedeg hyd ffyrdd Eryri ac yn cwblhau’r hyn a ystyrir i fod yn un o’r rasys 26.2 milltir mwyaf syfrdanol yng nghalendr y DU. Gyda chodiad tir o bron i 3000 troedfedd y ras hon yw un o’r rhai mwyaf egr-greulon hefyd. Ras eleni fydd y 36ain ac fe’i cynhelir ar ddydd Sadwrn, Hydref 27ain.

Bydd cydlynydd ras Marathon Eryri Jayne Lloyd yn trefnu ei pumthegfed ras yn 2018, a’i sylw ar y newyddion cyffrous yma oedd:

“Mae’n wirioneddol gyffrous i ni fod yn gweithio ag ASICS yn 2018. Mae eu brand wedi’i drwytho mewn hanes rhedeg ac mae’n hynod foddhaol eu bod yn gysylltiedig â’n digwyddiad ni.

“Byddwn yn gweithio’n galed â’u tîm marchnata yn y DU eleni i ddod â phrofiad ardderchog i’n rhedwyr drwy gyfrwng brand ASICS.”

I gael gwybodaeth bellach ar frand ewch i wefan ASICS