Amser dechrau’r ras ydi 10.30am yn union y tu allan i Lanberis. Mae’r llwybr yn dilyn yr A4086 ac yn dringo i ben Pas Llanberis (Pen-y-Pàs 1.100tr). Gan ddisgyn i lawr i gyffordd Penygwryd, mae’r ras wedyn yn dilyn yr hen ffordd hyd at y wersyllfa nes y bydd yn ymuno â’r A498. Mae’r rhan yma sy’n 2km yn drac fferm tuag i lawr, yna mae’r arwyneb yn darmac eto. Mae yna ddarn serth byr i fyny’n ôl i’r ffordd fawr at y wersyllfa. Yna mae’r llwybr yn parhau i Feddgelert (200tr) ac yna ymlaen ar hyd yr A4085 i Waunfawr. Oddi yma mae’n dringo’n gyflym i oddeutu 1,200tr ym Mwlch y Groes (mae darn byr heb fetlin) ac yna i lawr i’r terfyn yn Llanberis.
Map y Cwrs 2023(pdf)Pfoffil y Cwrs 2023(pdf)
Pa bryd y mae’r balot yn agor ac yn cau?
Mae’r balot yn agor am hanner dydd ar ddydd Gwener Rhagfyr 1af 2023 a bydd yn cau am hanner nos, nos Wener, Rhagfyr 8fed 2023
Y mhle y mae dod o hyd i’r ddolen?
Bydd y ddolen i gymryd rhan yn y bleidlais yn cael ei phostio ar ein gwefan ac ar dudalennau ein cyfryngau cymdeithasol
Pa wybodaeth fydd ei hangen arnaf i?
Fe ofynnir i chi am eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post, rhif ffôn a, lle bo hynny’n gymwys, nifer y Marathonau Eryri blaenorol a gwblhawyd gennych chi a’ch amseriad gorau mewn marathon.
Am faint o leoedd y bydd pob person yn gallu ymgeisio?
Bydd pob ymgeisydd yn gaeth i un lle yn unig.
Pa bryd y bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi?
Fe gyhoeddir y canlyniadau ar Ionawr 1af 2024
Sut fyddaf i’n gwybod a wyf i i mewn?
Fe anfonir e-bost at yr ymgeiswyr llwyddiannus gyda dolen i’w defnyddio i ymgeisio ac i dalu. Bydd y ddolen hon yn ddilys am bythefnos. Bydd methu ag ymgeisio yn y cyfnod hwnnw o bythefnos yn golygu colli’r lle.
Beth fydd yn digwydd i leoedd fydd heb eu defnyddio?
Fe roddir lleoedd fydd heb eu hawlio’n ôl ar gyfer tyniad ail bleidlais a gynhelir ar Ionawr 31ain 2024
Os bydd ymgeiswyr yn canfod na fyddan nhw’n gallu defnyddio eu lle, a fydd trosglwyddiadau’n dal yn ganiataol?
Bydd, bydd ymgeiswyr yn gallu trosglwyddo lleoedd eu hunain fel yn y blynyddoedd blaenorol.
A oes yna gymhwysiad ‘da am ei oed’?
Na, rydyn ni wedi penderfynu peidio â chynnwys hyn. Bydd y bleidlais yn cymryd dosraniad ar draws y categorïau oed.
A fydd tâl yn cael ei godi arnaf i fynd i mewn i’r bleidlais?
Na, bydd taliad yn cael ei gymryd dim ond pan gynigir lle i chi
Gwyddom fod cynlluniau weithiau’n newid neu amgylchiadau annisgwyl yn codi. Os nad ydych yn gallu mynychu’r digwyddiad hwn am unrhyw reswm, gallwch drosglwyddo’ch tocyn i rywun arall a chael ad-daliad wedi hynny.
Mae dau opsiwn wrth drosglwyddo tocyn. Os oes gennych chi rywun rydych chi am drosglwyddo’r tocyn iddo, gallwch chi weithredu hyn eich hun trwy fewngofnodi i’ch cyfrif EtchRock. Bydd yr erthygl isod yn eich arwain trwy’r broses hon:-
Fel arall, os nad oes gennych rywun yr hoffech drosglwyddo’r tocyn iddo, mae EtchRock yn rheoli rhestr aros. Mae’r holl ymgeiswyr aflwyddiannus o’r bleidlais wedi’u hychwanegu at y rhestr aros hon, felly nid oes angen i’r rhai a gymerodd ran yn y bleidlais yn wreiddiol wneud cais i gael eu hychwanegu at y rhestr aros hon. I gynnig eich tocyn i rywun ar y rhestr honno cysylltwch â support@etchrock.com
Mae trosglwyddiadau ar gael tan 30 Medi, 2024.
Bydd y cofrestru yn cael ei gynnal ochr maes parcio orsaf Snowdon Mountain Railway, Llanberis LL55 4TU yn ein canolfan ddigwyddiadau Marathon Eryri o ganol dydd tan 10.30yh dydd Gwener, Hydref 25ain 2024 ac eto o 7.00yb tan 10yb ar fore Sadwrn, Hydref 26ain. Dyma pryd y rhoddir pecyn y ras i chi.
Gall rhedwyr barcio mewn unrhyw un o nifer o feysydd parcio Talu ac Arddangos o gwmpas y pentref. Maen nhw i gyd o fewn cyrraedd yn hawdd i chi gerdded i’r man cofrestru. Byddwch yn ystyriol o’r amgylchedd, os gwelwch yn dda, a cheisiwch rannu cludiant i’r ras ble bynnag y bydd hynny’n bosib.
Cofiwch y gall y tywydd ar yr adeg yma o’r flwyddyn fod yn eithaf heriol ac fe’ch cynghorir i ddod â rhyw fathau o orchuddion efo chi i’w gwisgo pan fyddwch yn rhedeg.
Mae Pencadlys y ras yn y Mynydd Gwefru, Llanberis ac mae’r cychwyn yn union y tu allan i’r pentref ar yr A4086. Mae’r ras yn gorffen yn Llanberis sydd 66 milltir o Gaer, 103 milltir o Fanceinion a 270 milltir o Lundain.
Mae gwybodaeth lawn ar deithio a threnau ar gael yma